English language version

Archwiliwch Coed y Brenin

ar feic mynydd

Coed y Brenin yw canolfan llwybrau gwreiddiol y DU ac mae wedi bod yn cynnig y beicwyr ers dros 30 mlyned cyfle i brofi llwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang yn amgylchoedd prydferth y De Eryri. Beth am rentu beic gan Beics Brenin a chael diwrnod llawn hwyl yn archwilio parc y goedwig. 

Mae gan y ganolfan rhwydwaith mawr o lwybrau ag arwyddbyst gyda llwybrau ar gyfer pob gallu, ardal sgiliau, canolfan ymwelwyr gyda chaffi, ystafell newid a chawodydd. Mae gweithgareddau eraill yng Nghoed y Brenin yn cynnwys cerdded & llwybrau rhedeg a man chwarae i blant. 

Neidio i Ein llogi Cwestiynau Cyffredin >>>

Archebwch ar-lein

Mae'r ganolfan llogi weithiau'n brysur felly rydym bob amser yn cynghori archebu ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Gallwch ddewis ac archebu ein holl feiciau ar-lein.

Cyfnod llogi (Diwrnod neu 3 awr)

Rydym yn cynnig dau opsiwn, llogi dydd sy'n rhedeg o 9am tan 4pm, neu 3awr - unrhyw gyfnod o 3 awr yn ystod y dydd (9yb-4yp). Rhaid i chi dychwelyd pob beic llog erbyn 4pm. Mae ein beiciau ar gael i'w defnyddio yng Nghoedwig Coed y Brenin yn unig, nid ydym yn cynnig rhentu oddi ar y safle.

Mae beiciau ar gael i'w harchebu ar-lein trwy ein gwefan, bydd angen i chi wybod uchder pob beiciwr (ar gyfer maint) ac yn achos FS ac e-feiciau, hefyd pwysau'r beiciwr (defnyddir hwn ar gyfer ataliad gosod) Yswiriant difrod damweiniol ar gael fel opsiwn i roi tawelwch meddwl ychwanegol.

Cofiwch ddod â'ch cerdyn adnabod a'ch helmed beic os ydych chi eisiau ddefnyddio eich hun pan fyddwch chi'n casglu eich beic llogi. Mae helmedau benthyg ar gael i'w defnyddio gyda eich llogi os hoffech chi.

Math 3 awr Dwirnod (9-4) + Yswiriant

Beic Cydbwyso
£5 £10 £3

Plant Olwyn 16"
£5 £10 £3

Plant Olwyn 20"
£8 £12 £3

Kids 24"
£9 £15 £3

MTB o dan 16 oed
£25 £30 £3

Beic Mynydd
£30 £37 £3

Beic mynydd hongiad llawn
£48 £55 £4
E-Beic 625Wh
E-Beic 700Wh
SL E-Beic 320Wh
£70
£80
£80
£85
£95
£95
£5
£5
£5

*SYLWCH E-FEICIAU: Mae’n anghyfreithlon i blant o dan 14 oed reidio beic trydan yn ôl cyfraith y DU. 

**Rydym yn cynnig beiciau sy'n addas i feicwyr hyd at 17 9 pwys (113kg), yn anffodus ni allwn logi beicwyr dros y pwysau hwn oherwydd canllawiau'r gwneuthurwr.

Mae'n bosibl llogi cerdded i mewn pan fydd beiciau ar gael. Weithiau gallwn ni fod yn brysur iawn. Rydym yn cynghori archebu ymlaen llaw i osgoi siom. Gallwch chi archebu ar-lein trwy ein gwefan 24 awr y dydd, bydd angen i chi wybod uchder pob beiciwr (ar gyfer maint y beic) ac ar gyfer beic mynydd hongiad llawn ac e-feiciau hefyd pwysau'r beiciwr (ar gyfer gosod ataliad).

Canolfan Llogi Beic

Mae gan y ganolfan llogi beiciau ddewis helaeth o feiciau ar gael o feiciau mynydd safonol sy'n berffaith i ddechreuwyr a beicwyr profiadol archwilio'r goedwig. Hefyd, mae beic mynydd hongiad llawn ac e-feic mynydd, sy'n barod i reidio tir caled. Mae yna feiciau i blant ac rydyn ni'n cynnig prisiau is i blant dan 16 oed ar ein beiciau bach i oedolion er mwyn annog beicwyr ifanc allan ar y llwybrau.

Mae ein e-feiciau yn fodelau beic mynydd o ansawdd da gan Trek a Specialized a fydd yn gwneud bryniau serth yn hawdd a yn bleserus. Mae ganddyn nhw fatris mawr gyda digon o bŵer ar gyfer oriau o feicio.

Ein beiciau

Beic mynydd - Mae ein beic llogi safonol yn fodel Trek Hardtail o ansawdd da gyda brêcs hydrolig a gerau sy'n addas ar gyfer dringo bryniau serth. Mae'r beiciau hyn yn addas ar gyfer holl lwybrau Coed y Brenin ond os ydych chi'n reidio ar lwybrau anoddach ar lefel coch a du efallai y bydd gennych chi fwy o hwyl a pherfformiad ar feic hongiad llawn.

Beic mynydd Hongiad llawn Rydym yn cynnig y model Trek Fuel EX. Mae'r beic hwn yn feic llwybr poblogaidd ac yn ddewis gwych ar gyfer y llwybrau yng Nghoed y Brenin. Hwyl dda yn mynd i fyny ac i lawr. Dewis gwych ar gyfer reidio llwybrau lefel coch a du. 

E-Feic [EMTB] Rydym yn cynnig y modelau Trek Rail (625Wh) a Specialized Turbo Levo (700Wh). Mae'r rhain yn fodelau hongiad llawn gyda llawer o bŵer, bywyd batri hir ac yn hwyl i'w reidio. Batri wedi'i wefru'n llawneich bydd yn barod i chi, a bydd y beic eisoes wedi'i osod ar gyfer eich pwysau (gwybodaeth a roddir wrth archebu). Dewis gwych i unrhyw un nad yw'n hoffi reidio i fyny bryniau neu i rywun sydd eisiau mwynhau taith hir gydag ychydig o gefnogaeth modur. 

Plant - Rydym yn cynnig beiciau mynydd i blant o bob maint a hefyd prisiau is ar ein beiciau bach oedolion i blant dan 16 oed.

NODYN: Pedalau- Mae pob un o'n beiciau yn cael eu cyflenwi'n safonol gyda phedalau ar gyfer esgidiau arferol. Mae pedalau SPD ar gael i'w llogi ar gyfer unrhyw feic am ffi ychwanegol.  

Diogelwch ac amddiffyniad

Helmedau - Mae helmedau benthyg ar gael gyda'n holl feiciau am ddim. Os oes gennych chi helmed eich hun rydych chi am ei defnyddio, mae'n iawn. Rhaid i'ch helmed arddangos yr arwydd CE a bodloni'r rheol safonol EN1078. Os ydych chi'n dod â'ch beic eich hun ac angen helmed addas, gallwch chi llogi helmedau oddi wrthym ni. Hefyd, dyn ni'n cadw llawer o helmedau mewn stoc yn y siop. 

Menig - Mae menig yn eitem bersonol iawn, felly dyn ni ddim yn cynnig nhw i'w llogi. Fodd bynnag, rydyn ni'n cynghori eich bod chi'n gwisgo menig af eich er eich diogelwch rhag ofn y bydd cwymp yn digwydd.Mae dewis da o fenig ar gael i brynu yn y siop Beics Brenin. Prynu ar y diwrnod neu Cliciwch a chasglu  ar y we.

Amddiffyn pen-glin a phenelin - Dyn ni ddim yn cynnig amddiffyniad pen-glin a phenelin ar hyn o bryd ond dyn ni'n annog beicwyr i'w defnyddio nhw. Mae yna lawer o opsiynau heddiw, mae rhai yn ysgafn ac yn gyfforddus i'w defnyddio ar reidiau beic hir a byddan nhw yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i chi os byddwch chi'n cwympo. 

Llogi Beic Cwestiynau Cyffredin

Mae helmedau ar gael i’w defnyddio am ddim gyda phob beic llogi, er bod croeso i chi ddod â’ch helmed eich hun os oes gennych chi un sy’n addas. Bydd angen i chi ddod â dogfen adnabod (trwydded yrru/pasbort). Rydyn ni'n cynghori gwisgo esgidiau ymarfer, dillad chwaraeon a gwisgo ar gyfer y tywydd a ragwelir ar y diwrnod. Mae menig a dillad eraill ar gael i'w prynu yn y siop ar y diwrnod.
Ie, yn bendant! Mae helmedau ar gael i'w defnyddio am ddim gyda phob beic llogi ond gallwch chi'n dod â'ch helmed eich hun os hoffech chi. Mae helmedau ar gael i'w prynu yn y siop os hoffech chi brynu un i'w gadw.
Mae cyfnodau llogi ‘diwrnod’ neu ‘3 awr’ ar gael. Mae ein cyfnod llogi diwrnod llawn yn rhedeg am 9 yb i 4 yp. Mae ein cyfnod llogi 3 awr fod yn unrhyw 3 awr o fewn y cyfnod 9 yb i 4 yp. Casglu eich beic(iau) unrhyw bryd ond Cofiwch, POB BEIC ERBYN 4PM. Llogi aml-ddiwrnod – Rhaid dod â phob beic yn ôl erbyn 4 yp. MAE EIN BEICIAU'N CAEL EU LLOGI I'W DEFNYDDIO YM MHARC COEDWIG COED Y BRENIN YN UNIG
Gallwch chi logi ar y diwrnod ond does dim sicrwydd y bydd beic ar gael. Rydyn ni'n cynghori eich bod chi'n archebu ymlaen llaw ar gyfer penwythnosau a gwyliau oherwydd mae'n nhw'n gallu bod yn brysur iawn yn aml.
Rhaid i chi fod yn 14 oed o leia i reidio beic trydan o dan gyfraith y DU. Mwy o wybodaeth YMA
Na chei! Ddylech chi ddim yn osod seddi plant, beiciau trelar 'tag-a-long' neu gwneud unrhyw newidiadau eraill i'n beiciau llogi. Dyn nhw ddim yn addas i'w defnyddio ar lawer o lwybrau Coed y Brenin. Hefyd, peidiwch â rhoi olwynion dysgu ar ein beiciau llogi plant.
Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad beicio mynydd go iawn. Mae bryniau mawr i'w dringo, ac mae rhai llwybrau'n agored i'r tywydd. Y llwybr hawsaf yw 'Yr Afon' (gwyrdd), mae'r wyneb yn ffordd goedwig wastad a llydan. Ond mae'r llwybr hwn yn dal i gynnwys 100m o ddringo, felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd o hyd.
Mae rhai mewn lleoedd, ond mae'n annibynadwy. Felly, peidiwch â dibynnu ar eich ffôn. Nodyn: Does dim gwasanaeth achub yn y goedwig. Dylai beicwyr mynydd baratoi i fod yn hunangynhaliol.
Yr ateb syml yw ydy. Cyfrifoldeb y person sy’n llogi beic yw sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ofalus a’i fod yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr da. Rydy ni'n cynnig yswiriant ychwanegol ar gyfer beiciau sy'n cynnwys difrod damweiniol. Gallwch ddewis hwn wrth archebu. Mae pecyn cymorth bach (pwmp, lifer teiars a thiwb mewnol sbâr) yn cael ei gynnig gyda'r holl feiciau sy'n cael eu llogi. Nid oes gwasanaeth achub ar gael ar y llwybrau. Gallwch ddysgu sut i newid tiwb yma >> https://www.youtube.com/watch?v=Suh1-o6KBo8 Rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau gyda'ch beic llogi cyn gynted â phosibl.
Mwy na 30 diwrnod cyn y dyddiad archebu - Gallwch ganslo a rhoi ad-daliad llawn neu daleb siop yw cynnig.

Rhwng 30 i 14 diwrnod cyn y dyddiad archebu - Gallwch chi newid dyddiad eich archeb neu gymryd taleb siop. Gallwch chi defnyddio taleb siop ar gyfer unrhyw eitemau neu wasanaethau a gynigir gan Beics Brenin (Rhaid i chi ddefnyddio'r taleb siop o fewn 12 mis.)

Llai na 14 diwrnod cyn y dyddiad archeb - Does dim ad-daliad, newid dyddiad neu daleb siop ar gael.

Archwiliwch Coed y Brenin

by mountain bike

Coed y Brenin yw canolfan llwybrau gwreiddiol y DU ac mae wedi bod yn cynnig y beicwyr ers dros 30 mlyned cyfle i brofi llwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang yn amgylchoedd prydferth y De Eryri. Beth am rentu beic gan Beics Brenin a chael diwrnod llawn hwyl yn archwilio parc y goedwig. 

Mae gan y ganolfan rhwydwaith mawr o lwybrau ag arwyddbyst gyda llwybrau ar gyfer pob gallu, ardal sgiliau, canolfan ymwelwyr gyda chaffi, ystafell newid a chawodydd. Mae gweithgareddau eraill yng Nghoed y Brenin yn cynnwys cerdded & llwybrau rhedeg a man chwarae i blant. 

Neidio i Ein llogi Cwestiynau Cyffredin >>>

Archebwch ar-lein

Mae'r ganolfan llogi weithiau'n brysur felly rydym bob amser yn cynghori archebu ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Gallwch ddewis ac archebu ein holl feiciau ar-lein.

Cyfnod llogi (Diwrnod neu 3 awr)

Rydym yn cynnig dau opsiwn, llogi dydd sy'n rhedeg o 9am tan 4pm, neu 3awr - unrhyw gyfnod o 3 awr yn ystod y dydd (9yb-4yp). Rhaid i chi dychwelyd pob beic llog erbyn 4pm. Mae ein beiciau ar gael i'w defnyddio yng Nghoedwig Coed y Brenin yn unig, nid ydym yn cynnig rhentu oddi ar y safle.

Mae beiciau ar gael i'w harchebu ar-lein trwy ein gwefan, bydd angen i chi wybod uchder pob beiciwr (ar gyfer maint) ac yn achos FS ac e-feiciau, hefyd pwysau'r beiciwr (defnyddir hwn ar gyfer ataliad gosod) Yswiriant difrod damweiniol ar gael fel opsiwn i roi tawelwch meddwl ychwanegol.

Cofiwch ddod â'ch cerdyn adnabod a'ch helmed beic os ydych chi eisiau ddefnyddio eich hun pan fyddwch chi'n casglu eich beic llogi. Mae helmedau benthyg ar gael i'w defnyddio gyda eich llogi os hoffech chi.

Math 3 awr Dwirnod (9-4) + Yswiriant

Beic Cydbwyso
£5 £10 £3

Plant Olwyn 16"
£5 £10 £3

Plant Olwyn 20"
£8 £12 £3

Kids 24"
£9 £15 £3

MTB o dan 16 oed
£25 £30 £3

Beic Mynydd
£30 £37 £3

Beic mynydd hongiad llawn
£48 £55 £4
E-Beic 625Wh
E-Beic 700Wh
SL E-Beic 320Wh
£70
£80
£80
£85
£95
£95
£5
£5
£5

*SYLWCH E-FEICIAU: Mae’n anghyfreithlon i blant o dan 14 oed reidio beic trydan yn ôl cyfraith y DU. 

**Rydym yn cynnig beiciau sy'n addas i feicwyr hyd at 17 9 pwys (113kg), yn anffodus ni allwn logi beicwyr dros y pwysau hwn oherwydd canllawiau'r gwneuthurwr./b>

Mae'n bosibl llogi cerdded i mewn pan fydd beiciau ar gael. Weithiau gallwn ni fod yn brysur iawn. Rydym yn cynghori archebu ymlaen llaw i osgoi siom. Gallwch chi archebu ar-lein trwy ein gwefan 24 awr y dydd, bydd angen i chi wybod uchder pob beiciwr (ar gyfer maint y beic) ac ar gyfer beic mynydd hongiad llawn ac e-feiciau hefyd pwysau'r beiciwr (ar gyfer gosod ataliad).

Gweler Ein Llogi Cwestiynau Cyffredin>>>

Canolfan Llogi Beic

Mae gan y ganolfan llogi beiciau ddewis helaeth o feiciau ar gael o feiciau mynydd safonol sy'n berffaith i ddechreuwyr a beicwyr profiadol archwilio'r goedwig. Hefyd, mae beic mynydd hongiad llawn ac e-feic mynydd, sy'n barod i reidio tir caled. Mae yna feiciau i blant ac rydyn ni'n cynnig prisiau is i blant dan 16 oed ar ein beiciau bach i oedolion er mwyn annog beicwyr ifanc allan ar y llwybrau.

Mae ein e-feiciau yn fodelau beic mynydd o ansawdd da gan Trek a Specialized a fydd yn gwneud bryniau serth yn hawdd a yn bleserus. Mae ganddyn nhw fatris mawr gyda digon o bŵer ar gyfer oriau o feicio.

Ein beiciau

Beic mynydd - Mae ein beic llogi safonol yn fodel Trek Hardtail o ansawdd da gyda brêcs hydrolig a gerau sy'n addas ar gyfer dringo bryniau serth. Mae'r beiciau hyn yn addas ar gyfer holl lwybrau Coed y Brenin ond os ydych chi'n reidio ar lwybrau anoddach ar lefel coch a du efallai y bydd gennych chi fwy o hwyl a pherfformiad ar feic hongiad llawn.

Beic mynydd Hongiad llawn Rydym yn cynnig y model Trek Fuel EX. Mae'r beic hwn yn feic llwybr poblogaidd ac yn ddewis gwych ar gyfer y llwybrau yng Nghoed y Brenin. Hwyl dda yn mynd i fyny ac i lawr. Dewis gwych ar gyfer reidio llwybrau lefel coch a du. 

E-Feic [EMTB] Rydym yn cynnig y modelau Trek Rail (625Wh) a Specialized Turbo Levo (700Wh). Mae'r rhain yn fodelau hongiad llawn gyda llawer o bŵer, bywyd batri hir ac yn hwyl i'w reidio. Batri wedi'i wefru'n llawneich bydd yn barod i chi, a bydd y beic eisoes wedi'i osod ar gyfer eich pwysau (gwybodaeth a roddir wrth archebu). Dewis gwych i unrhyw un nad yw'n hoffi reidio i fyny bryniau neu i rywun sydd eisiau mwynhau taith hir gydag ychydig o gefnogaeth modur. 

Plant - Rydym yn cynnig beiciau mynydd i blant o bob maint a hefyd prisiau is ar ein beiciau bach oedolion i blant dan 16 oed.

NODYN: Pedalau- Mae pob un o'n beiciau yn cael eu cyflenwi'n safonol gyda phedalau ar gyfer esgidiau arferol. Mae pedalau SPD ar gael i'w llogi ar gyfer unrhyw feic am ffi ychwanegol.  

Diogelwch ac amddiffyniad

Helmedau - Mae helmedau benthyg ar gael gyda'n holl feiciau am ddim. Os oes gennych chi helmed eich hun rydych chi am ei defnyddio, mae'n iawn. Rhaid i'ch helmed arddangos yr arwydd CE a bodloni'r rheol safonol EN1078. Os ydych chi'n dod â'ch beic eich hun ac angen helmed addas, gallwch chi llogi helmedau oddi wrthym ni. Hefyd, dyn ni'n cadw llawer o helmedau mewn stoc yn y siop. 

Menig - Mae menig yn eitem bersonol iawn, felly dyn ni ddim yn cynnig nhw i'w llogi. Fodd bynnag, rydyn ni'n cynghori eich bod chi'n gwisgo menig af eich er eich diogelwch rhag ofn y bydd cwymp yn digwydd.Mae dewis da o fenig ar gael i brynu yn y siop Beics Brenin. Prynu ar y diwrnod neu Cliciwch a chasglu  ar y we.

Amddiffyn pen-glin a phenelin - Dyn ni ddim yn cynnig amddiffyniad pen-glin a phenelin ar hyn o bryd ond dyn ni'n annog beicwyr i'w defnyddio nhw. Mae yna lawer o opsiynau heddiw, mae rhai yn ysgafn ac yn gyfforddus i'w defnyddio ar reidiau beic hir a byddan nhw yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i chi os byddwch chi'n cwympo. 

Llogi Beic Cwestiynau Cyffredin

Beth sydd ei angen arnoch chi?

Mae helmedau ar gael i’w defnyddio am ddim gyda phob beic llogi, er bod croeso i chi ddod â’ch helmed eich hun os oes gennych chi un sy’n addas. Bydd angen i chi ddod â dogfen adnabod (trwydded yrru/pasbort). Rydyn ni'n cynghori gwisgo esgidiau ymarfer, dillad chwaraeon a gwisgo ar gyfer y tywydd a ragwelir ar y diwrnod. Mae menig a dillad eraill ar gael i'w prynu yn y siop ar y diwrnod.

Oes angen helmed arna i?

Ie, yn bendant! Mae helmedau ar gael i'w defnyddio am ddim gyda phob beic llogi ond gallwch chi'n dod â'ch helmed eich hun os hoffech chi. Mae helmedau ar gael i'w prynu yn y siop os hoffech chi brynu un i'w gadw.

Pryd ddylwn i gasglu fy meic llogi?

Mae cyfnodau llogi ‘diwrnod’ neu ‘3 awr’ ar gael. Mae ein cyfnod llogi diwrnod llawn yn rhedeg am 9 yb i 4 yp. Mae ein cyfnod llogi 3 awr fod yn unrhyw 3 awr o fewn y cyfnod 9 yb i 4 yp. Casglu eich beic(iau) unrhyw bryd ond Cofiwch, POB BEIC ERBYN 4PM. Llogi aml-ddiwrnod – Rhaid dod â phob beic yn ôl erbyn 4 yp. MAE EIN BEICIAU'N CAEL EU LLOGI I'W DEFNYDDIO YM MHARC COEDWIG COED Y BRENIN YN UNIG

Llogi ar y diwrnod

Gallwch chi logi ar y diwrnod ond does dim sicrwydd y bydd beic ar gael. Rydyn ni'n cynghori eich bod chi'n archebu ymlaen llaw ar gyfer penwythnosau a gwyliau oherwydd mae'n nhw'n gallu bod yn brysur iawn yn aml.

Gofynion oedran ar gyfer beiciau trydan

Rhaid i chi fod yn 14 oed o leia i reidio beic trydan o dan gyfraith y DU. Mwy o wybodaeth YMA

Ga i rhoi sedd plentyn i'r beic llogi?

Na chei! Ddylech chi ddim yn osod seddi plant, beiciau trelar 'tag-a-long' neu gwneud unrhyw newidiadau eraill i'n beiciau llogi. Dyn nhw ddim yn addas i'w defnyddio ar lawer o lwybrau Coed y Brenin. Hefyd, peidiwch â rhoi olwynion dysgu ar ein beiciau llogi plant.

Ydy Coed y Brenin yn addas i fi?

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad beicio mynydd go iawn. Mae bryniau mawr i'w dringo, ac mae rhai llwybrau'n agored i'r tywydd. Y llwybr hawsaf yw 'Yr Afon' (gwyrdd), mae'r wyneb yn ffordd goedwig wastad a llydan. Ond mae'r llwybr hwn yn dal i gynnwys 100m o ddringo, felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd o hyd.

Oes signal ffôn symudol yn y goedwig?

Mae rhai mewn lleoedd, ond mae'n annibynadwy. Felly, peidiwch â dibynnu ar eich ffôn. Nodyn: Does dim gwasanaeth achub yn y goedwig. Dylai beicwyr mynydd baratoi i fod yn hunangynhaliol.

Os bydda i'n difrodi fy meic llogi, oes rhaid i fi dalu amdano?

Yr ateb syml yw ydy. Cyfrifoldeb y person sy’n llogi beic yw sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ofalus a’i fod yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr da. Rydy ni'n cynnig yswiriant ychwanegol ar gyfer beiciau sy'n cynnwys difrod damweiniol. Gallwch ddewis hwn wrth archebu. Mae pecyn cymorth bach (pwmp, lifer teiars a thiwb mewnol sbâr) yn cael ei gynnig gyda'r holl feiciau sy'n cael eu llogi. Does dim gwasanaeth achub ar gael ar y llwybrau. Gallwch ddysgu sut i newid tiwb yma >> https://www.youtube.com/watch?v=Suh1-o6KBo8 Rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau gyda'ch beic llogi cyn gynted â phosibl.

Canslo a newid dyddiad