PLEASE SIGN the petition to stop the planned closure of NRW Visitor Centres CLICK HERE
Siop feiciau a chanolfan llogi i aros ar agor yng Nghoed y Brenin.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd CNC gynigion i gau canolfannau ymwelwyr yn Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin. Mae CNC wedi cael gwybod bod arian ar gael i gadw canolfannau ar agor tan Ebrill 1af 2024. Mae posibilrwydd y gallai’r caffi gau’n gynt, mor gynnar â mis Hydref. Mae'n bwysig pwysleisio, does dim byd wedi'i benderfynu ar hyn o bryd. Mae staff CNC mewn ymgynghoriadau undeb a bydd y broses hon yn cymryd tua 45 diwrnod i’w chwblhau. Fyddwn ni ddim gwybod beth sydd wedi'i benderfynu tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae CNC wedi dweud wrthym y gallwn barhau, felly, bydd Beics Brenin ar agor fel arfer. Bydd ein partneriaid Pedal MTB yn parhau i ddarparu gwersi, cyrsiau a beiciau tywys. Daw ein contract presennol i ben yn 2028, ac rydym yn parhau i gynllunio ar gyfer y cyfnod hwn. Does dim ragor o wybodaeth gyda ni am newid arfaethedig neu beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Mae grŵp lleol, Caru Coed y Brenin, wedi ei ffurfio i ymchwilio i opsiynau ar gyfer rheoli Coed y Brenin yn y dyfodol. Rydym yn gweithio gyda'r grŵp hwn ac yn cefnogi ei nodau. Hefyd, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda CNC yn y gobaith o gadw’r gwasanaethau a gynigiwn yn gyson.
Eleni, ychwanegodd y parc coedwig dros 100km o lwybrau graean/antur newydd. Roedd llawer o waith wedi'i wneud ar y prosiect hwn, felly roedd cyhoeddi toriadau yn drist iawn.
Mae gan Goed y Brenin gymeriad unigryw sy'n parhau i ddarparu dewis arall gwerthfawr i'r profiad a gynigir gan uplift bikeparks. Yma, mae marchogaeth yn parhau am ddim yn y pwynt mynediad ar lwybrau sy'n cynnig rhywbeth ar gyfer pob lefel gallu.
Os ydych chi eisiau cefnogi'r ganolfan a'r llwybrau, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw parhau i'w defnyddio.
Mae Beics Brenin a'r llwybrau beicio yng Nghoed y Brenin ar agor i fusnes. Mae'r haf yn brysur a bydd miloedd o ymwelwyr yn dod i'r ganolfan i fwynhau'r llwybrau. Gobeithiwn y bydd Coed y Brenin yn parhau i fod yn lle gwych i bawb reidio a phrofi’r awyr agored a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ganolog i feicio mynydd y DU.
Tîm Beics Brenin.