×

⚠ NODWCH

Fydd gosod arwyddion llwybr ddim yn cael eu cwblhau tan y dyddiad agor ar 25 Mai
PEIDIWCH Â CEISIO MYND AR Y LLWYBRAU CYN Y DYDDIAD AGOR

MAPIAU
MAPIAU

Llwybrau beicio antur

Llwybrau beicio antur newydd ar gyfer pob lefel gallu

Chwilio am antur? Mae cyrchfan canolfan llwybrau fwyaf ac enwocaf Gogledd Cymru newydd gyhoeddi agor llwybrau antur/graean . 

Mae'r llwybrau rhwng 9 a 36 cilometr o hyd, y byrraf yw Coblynnau ychydig dros 9km a'r hiraf yw'r Wrach Wen ar 36km. Bydd wyneb y llwybrau'n cynnwys ffordd goedwig, llwybr wyneb caled a rhai llwybrau cul. Maent yn addas ar gyfer beic graean neu beic hybrid gyda theiars addas ond mae rhai llwybrau serth ar y llwybrau hirach lle efallai y bydd rhaid i chi gerdded gyda'ch beic am bellter byr.   

Mae’r llwybrau wedi’u gwneud i gynnig antur newydd yng Nghoed y Brenin, rhywbeth gwahanol i lwybrau MTB. Gallech fod yn edrych i brofi eich ffitrwydd dros reid hirach neu ddim ond eisiau mwynhau golygfeydd hyfryd o fynyddoedd Eryri.  

Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y ganolfan ymwelwyr ar ein tudalenWybodaeth Canolfan Ymwelwyr , archebwch llogi beic neu cliciwch  a chasglu hanfodion MTB o'n siop gwefan

Sylwch -Does dim tâl i reidio'r llwybrau, ond bydd rhaid i chi dalu i barcio. 

ENNILL!!          

TREK CHECKPOINT ALR 4

Bydd digwyddiad diwrnod agoriadol ar ddydd Sadwrn 25ain o Fai. Mae Beics Brenin a'n partneriaid Trek a Rab yn cynnig gwobrau gwych i'w hennill ar y diwrnod. Gan gynnwys y wobr fawr o feic graean Trek Checkpoint ALR4 newydd sbon. Bydd gwobrau gan Rab yn cynnwys rhai o’u siacedi glaw Cinder rhagorol.

Am gyfle i ennill ar y diwrnod, arbedwch y dyddiad a gwnewch yn siŵr y gallwch ymuno â ni i reidio un o'r llwybrau graean newydd yng Nghoed y Brenin. Bydd angen i chi hefyd ychwanegu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost at restr e-bost y diwrnod agoriadol. Yna byddwn yn cysylltu â chi gyda mwy o wybodaeth am y diwrnod agoriadol a beth fydd angen i chi ei wneud ar y diwrnod i gael siawns o ennill gwobr.

Dyma'r ddolen i gofrestru ar gyfer gwybodaeth am y digwyddiad lansio a sut i ennill gwobrau -  ENNILL!! TREK CHECKPOINT ALR4

Cynlluniwch eich ymweliad

Ar y dudalen hon - Byddwch chi'n dod o hyd i ddolenni i arweinlyfr/mapiau llwybrau a chyngor a gwybodaeth am y llwybrau graean. Hefyd, mae gwybodaeth am lefel her pob llwybr a chyngor i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich taith.

Y llwybrau

Mae'r holl lwybrau antur graean ar gael i'w gweld ar un map. Mae hyn yn ychwanegol at y arweinlyfr llwybrau unigol a welwch chi isod. Gallwch chi lawrlwytho'r map llwybr llawn (maint A3) ar waelod yr adran llwybr isod.

 Archwiliwch lwybrau a lawrlwythwch arweinlyfrau/mapiau llwybrau

Mae arweinlyfr i'r llwybrau antur graean newydd ar gael fel ffeiliau PDF i'w lawrlwytho isod.

LLWYBR ENW PELLTER/AMSER TAITH GWYBODAETH DOLEN
Coblynnau 9.5km / 1-3 awr Mae ardal bicnic hyfryd yn eich disgwyl ar lan yr afon wrth i chi ddilyn afon Edenac afon Mawddach i Bont Ty'n-y-groes. Taith hamddenol sy'n addas i'r teulu cyfan gyda lle perffaith i aros hanner ffordd.
Yr Afon 10.9km 1-3 awr Beth am ei chychwyn hi, a gadewch i afon Mawddach eich tywys at ei chyfrinach. Mae dwy raeadr wyllt yn cyfarch y rhai sy'n dilyn ei ffrydiau a'i cheunentydd ar hyd llwybr Yr Afon, sy'n addas i'r teulu cyfan.
Olwyn Dân 10.5km / 1.5-3 awr Dringwch yn uchel i esgair Cefndeuddwr, edmygwch y golygfeydd godidog ar draws mynyddoedd garw'r Rhinogau, ac ewch am dro lle bu'r Rhufeiniaid yn gorymdeithio gynt. Y cyfan mewn diwrnod da o waith ar lwybr yr Olwyn Dân.
Y Fuwch Frech 15.5km / 2-4 awr Gan fentro i ochr dawelach y goedwig, mae llwybr Y Fuwch Frech yn cynnig golygfeydd godidog o'r mynyddoedd a'r goedwig wrth i chi ddringo'n uchel uwchben y dyffryn.
Y Fuwch Gyfeiliorn 19.1km / 2-4 hours Gan droi a throelli ar hyd ffyrdd coedwig Craig Ganllwyd, mae llwybr Y Fuwch Gyfeiliorn yn cynnig golygfeydd syfrdanol o'r goedwig a'r ardal gyfagos, felly arhoswch i oedi a'u mwynhau, rydych chi'n haeddu hyn!
Gwyllgi 24.9km / 2.5-4.5 hours Dringfeydd serth a mannau i groesi'r afonydd yw'r wobr i unrhyw un sy'n ddigon dewr i roi cynnig ar ddofi'r Gwyllgi. Wrth gyrraedd ffin ogleddol y goedwig, mae'r llwybr hwn yn cynnig rhywbeth o amgylch pob cornel.
Y Wrach Wen 36km / 3-6 hours Ymwelwch â rhannau mwyaf anghysbell y goedwig lle mae cribau uchel agored yn datgelu golygfeydd mynyddig, a chwedlau am wrachod yn sisial ymhlith y coed.
Map pob llwybr N/A Mae'r PDF maint A3 hwn yn dangos yr holl lwybrau ar un map.

Cwestiynau Cyffredin am Llwybrau Antur Graean

Eisiau crwydro’r parc coedwig ond heb fod eisiau mynd ar y llwybrau beicio mynydd technegol? Yna ystyriwch y llwybrau hyn! Mae’r llwybrau graean yn gyfres o lwybrau beicio wedi’u harwyddo sy’n dilyn ffyrdd coedwig a lonydd tarmac yn bennaf. Mae’r llwybrau’n ddelfrydol ar gyfer beiciau graean â bariau dolennog sydd â theiars cnapiog 40mm neu letach, ac ar gyfer beiciau mynydd â bariau syth ac e-feiciau mynydd/graean. Gallai’r llwybrau hirach hefyd gynnwys darnau o drac sengl a darnau byr lle bydd angen i chi wthio neu gario eich beic. Edrychwch ar y llwybrau unigol i weld y manylion. Mae seiclo oddi ar y ffordd yn weithgaredd peryglus sydd â rhai risgiau ymhlyg. Ystyriwch eich sgiliau, eich galluoedd a’ch ffitrwydd yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod eich beic a’ch helmed yn ddiogel i’w defnyddio bob amser.
Mae’r llwybrau graean rydym wedi’u darparu yn cynnig opsiynau ar gyfer ystod o sgiliau a galluoedd. Bydd y wybodaeth a ddarperir yng nghardiau’r llwybrau yn eich helpu i benderfynu pa lwybr sy’n iawn i chi.
Bydd edrych ar y pellter a faint o ddringo sydd ar lwybr yn rhoi syniad da i chi o ba mor anodd fydd y llwybr i chi. Bydd y ffigurau hyn ochr yn ochr â phroffiliau’r llwybrau yn eich helpu i gael y ddealltwriaeth orau o’r hyn sydd i’w ddisgwyl. COFIWCH: Mae’n waith caled ceisio codi neu gario e-feic trwm ar dir serth neu lithrig, cadwch olwg am yr adrannau lle bydd angen cario’r beic (hike-a-bike).
Mae’r amser ar gardiau’r llwybrau yn arwydd o ba mor hir y bydd y daith yn ei gymryd, ond byddwch yn barod i’w addasu i weddu i’ch amgylchiadau. Mae’n bwysig cynnwys amser ychwanegol ar gyfer problemau mecanyddol, damweiniau, tywydd, eich ffitrwydd personol, gwallau o ran llywio, neu seibiannau i edmygu’r golygfeydd hardd.
Mae gan bob llwybr ei arwyddbost a’i saeth unigryw ei hun felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pa arwyddion rydych chi’n eu dilyn. Bydd cario copi o fap y llwybr yn eich helpu i gadw golwg ar ble rydych chi a beth sydd i ddod. i ddod.
Bydd cario’r dillad, cyfarpar a chyflenwadau cywir ar gyfer y diwrnod yn eich helpu i wneud y gorau o’ch ymweliad â’r goedwig.
  • Ewch â phecyn trwsio tyllau teiars neu diwb sbâr a gofalwch eich bod yn gwybod sut i’w defnyddio nhw.
  • Efallai y bydd pecyn offer sylfaenol yn ddefnyddiol hefyd!
  • Ewch â phecyn cymorth cyntaf a dull o gyfathrebu.
Cofiwch, gall y tywydd fod yn gyfnewidiol yma felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi edrych ar y rhagolygon ac wedi cynllunio’n briodol.

Beth ddylwn i ei wneud os aiff pethau o chwith?

Gall bod yn barod ac yn hunanddibynnol eich helpu i ddelio â llawer o sefyllfaoedd.

Os byddwch yn gweld eich bod ar goll, ceisiwch olrhain eich llwybr yn ôl i’r rwyddbost diwethaf neu unrhyw arwyddbost wedi’i rifo a fydd yn rhoi cyfeirbwynt i chi ar y map ac yn caniatáu ichi ddod o hyd i ble rydych chi. Rydym hefyd wedi nodi llwybrau dihangfa yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr. Mae’r rhain yn dilyn y llwybr hawsaf a mwyaf gwastad yn ôl.
Bydd angen i chi allu trwsio hyn eich hun ar y llwybrau. Os na allwch ei drwsio yna bydd angen i chi gerdded yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr gan ddilyn y llwybrau dihangfa a grybwyllir uchod. Peidiwch ag anghofio, mae siop feiciau Beics Brenin wedi'i lleoli yn y ganolfan ymwelwyr lle gallwch brynu darnau sbâr hanfodol, citiau trwsio tyllau ac offer.
Mae signal symudol yn anghyson drwy’r goedwig, felly bydd cario dulliau eraill o gael sylw fel chwiban neu dortsh yn helpu yn y sefyllfaoedd hyn. Gellir gwneud galwadau i’r gwasanaethau brys ar unrhyw rwydwaith sydd ar gael.
Rhowch driniaeth cymorth cyntaf i unrhyw berson anafedig ac yna ewch yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr. Mewn argyfwng ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu ac yna’r Tîm Achub Mynydd oherwydd mewn llawer o ardaloedd yn y goedwig, ni fydd ambiwlans yn gallu eich cyrraedd. Ar gyfer y lleoliad, cyfeirnod grid OS sydd orau, neu mae rhif yr arwyddbost agosaf yn opsiwn da wrth gefn. Sicrhewch hefyd fod gennych gymaint o wybodaeth â phosibl am y digwyddiad a’r person anafedig i’w rhoi iddynt.

Llogi beiciau

Os hoffech chi rentu beic, mae gan Beics Brenin lawer o feiciau ar gael. Gallwch archebu ar-lein drwy'r wefan hon - ARCHEBWCH NAWR

Siop Feiciau a Chanolfan Ymwelwyr

Mae'r siop feiciau yn cynnig dewis da o ddillad ac ategolion beicio i'ch helpu i wneud y gorau o'ch ymweliad â Choed y Brenin. Mae gan y Ganolfan Ymwelwyr gaffi drws nesaf i'r siop feiciau a'r ganolfan llogi beiciau. Mae caffi Thew yn cynnig diodydd a bwyd drwy'r dydd. Mae yna hefyd gawodydd, toiledau ac ardal golchi beiciau. Mae gweithgareddau eraill fel llwybrau cerdded a rhedeg ac ardal chwarae i blant hefyd ar gael. Darganfyddwch fwy ar dudalen Gwybodaeth y Ganolfan Ymwelwyr.

Peidiwch ag aros! Cynlluniwch eich ymweliad heddiw.

Llwybrau beicio antur

Llwybrau beicio antur newydd ar gyfer pob lefel gallu

Chwilio am antur? Mae cyrchfan canolfan llwybrau fwyaf ac enwocaf Gogledd Cymru newydd gyhoeddi agor llwybrau antur/graean . 

Mae'r llwybrau rhwng 9 a 36 cilometr o hyd, y byrraf yw Coblynnau ychydig dros 9km a'r hiraf yw'r Wrach Wen ar 36km. Bydd wyneb y llwybrau'n cynnwys ffordd goedwig, llwybr wyneb caled a rhai llwybrau cul. Maent yn addas ar gyfer beic graean neu beic hybrid gyda theiars addas ond mae rhai llwybrau serth ar y llwybrau hirach lle efallai y bydd rhaid i chi gerdded gyda'ch beic am bellter byr.   

Mae’r llwybrau wedi’u gwneud i gynnig antur newydd yng Nghoed y Brenin, rhywbeth gwahanol i lwybrau MTB. Gallech fod yn edrych i brofi eich ffitrwydd dros reid hirach neu ddim ond eisiau mwynhau golygfeydd hyfryd o fynyddoedd Eryri.  

Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y ganolfan ymwelwyr ar ein tudalenWybodaeth Canolfan Ymwelwyr , archebwch llogi beic neu cliciwch  a chasglu hanfodion MTB o'n siop gwefan

Sylwch -Does dim tâl i reidio'r llwybrau, ond bydd rhaid i chi dalu i barcio. 

ENNILL!!          

TREK CHECKPOINT ALR 4

Bydd digwyddiad diwrnod agoriadol ar ddydd Sadwrn 25ain o Fai. Mae Beics Brenin a'n partneriaid Trek a Rab yn cynnig gwobrau gwych i'w hennill ar y diwrnod. Gan gynnwys y wobr fawr o feic graean Trek Checkpoint ALR4 newydd sbon. Bydd gwobrau gan Rab yn cynnwys rhai o’u siacedi glaw Cinder rhagorol.

Am gyfle i ennill ar y diwrnod, arbedwch y dyddiad a gwnewch yn siŵr y gallwch ymuno â ni i reidio un o'r llwybrau graean newydd yng Nghoed y Brenin. Bydd angen i chi hefyd ychwanegu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost at restr e-bost y diwrnod agoriadol. Yna byddwn yn cysylltu â chi gyda mwy o wybodaeth am y diwrnod agoriadol a beth fydd angen i chi ei wneud ar y diwrnod i gael siawns o ennill gwobr.

Dyma'r ddolen i gofrestru ar gyfer gwybodaeth am y digwyddiad lansio a sut i ennill gwobrau -  ENNILL!! TREK CHECKPOINT ALR4

Cynlluniwch eich ymweliad

Ar y dudalen hon - Byddwch chi'n dod o hyd i ddolenni i arweinlyfr/mapiau llwybrau a chyngor a gwybodaeth am y llwybrau graean. Hefyd, mae gwybodaeth am lefel her pob llwybr a chyngor i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich taith.

Y llwybrau

Mae'r holl lwybrau antur graean ar gael i'w gweld ar un map. Mae hyn yn ychwanegol at y arweinlyfr llwybrau unigol a welwch chi isod. Gallwch chi lawrlwytho'r map llwybr llawn (maint A3) ar waelod yr adran llwybr isod.

 Archwiliwch lwybrau a lawrlwythwch arweinlyfrau/mapiau llwybrau

Mae arweinlyfr i'r llwybrau antur graean newydd ar gael fel ffeiliau PDF i'w lawrlwytho isod.

LLWYBR ENW PELLTER/AMSER TAITH DOLEN
Coblynnau 9.5km / 1-3 awr
Yr Afon 10.9km 1-3 awr
Olwyn Dân 10.5km / 1.5-3 awr
Y Fuwch Frech 15.5km / 2-4 awr
Y Fuwch Gyfeiliorn 19.1km / 2-4 hours
Gwyllgi 24.9km / 2.5-4.5 hours
Y Wrach Wen 36km / 3-6 hours
Map pob llwybr N/A

Cwestiynau Cyffredin am Llwybrau Antur Graean

Beth yw llwybr beicio graean?
Eisiau crwydro’r parc coedwig ond heb fod eisiau mynd ar y llwybrau beicio mynydd technegol? Yna ystyriwch y llwybrau hyn!
Mae’r llwybrau graean yn gyfres o lwybrau beicio wedi’u harwyddo sy’n dilyn ffyrdd coedwig a lonydd tarmac yn bennaf. Mae’r llwybrau’n ddelfrydol ar gyfer beiciau graean â bariau dolennog sydd â theiars cnapiog 40mm neu letach, ac ar gyfer beiciau mynydd â bariau syth ac e-feiciau mynydd/graean. Gallai’r llwybrau hirach hefyd gynnwys darnau o drac sengl a darnau byr lle bydd angen i chi wthio neu gario eich beic. Edrychwch ar y llwybrau unigol i weld y manylion. Mae seiclo oddi ar y ffordd yn weithgaredd peryglus sydd â rhai risgiau ymhlyg. Ystyriwch eich sgiliau, eich galluoedd a’ch ffitrwydd yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod eich beic a’ch helmed yn ddiogel i’w defnyddio bob amser.

Sut ydw i’n gwybod a yw’r llwybrau’n addas i mi?
Mae’r llwybrau graean rydym wedi’u darparu yn cynnig opsiynau ar gyfer ystod o sgiliau a galluoedd. Bydd y wybodaeth a ddarperir yng nghardiau’r llwybrau yn eich helpu i benderfynu pa lwybr sy’n iawn i chi.

Pa mor hir yw’r llwybrau a pha mor anodd ydyn nhw?
Bydd edrych ar y pellter a faint o ddringo sydd ar lwybr yn rhoi syniad da i chi o ba mor anodd fydd y llwybr i chi. Bydd y ffigurau hyn ochr yn ochr â phroffiliau’r llwybrau yn eich helpu i gael y ddealltwriaeth orau o’r hyn sydd i’w ddisgwyl. COFIWCH: Mae’n waith caled ceisio codi neu gario e-feic trwm ar dir serth neu lithrig, cadwch olwg am yr adrannau lle bydd angen cario’r beic (hike-a-bike).

Pa mor hir y bydd yn eigymryd i reidio’r llwybr?
Mae’r amser ar gardiau’r llwybrau yn arwydd o ba mor hir y bydd y daith yn ei gymryd, ond byddwch yn barod i’w addasu i weddu i’ch amgylchiadau. Mae’n bwysig cynnwys amser ychwanegol ar gyfer problemau mecanyddol, damweiniau, tywydd, eich ffitrwydd personol, gwallau o ran llywio, neu seibiannau i edmygu’r golygfeydd hardd.

Ydy’r llwybrau’n hawdd i’w dilyn?
Mae gan bob llwybr ei arwyddbost a’i saeth unigryw ei hun felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pa arwyddion rydych chi’n eu dilyn. Bydd cario copi o fap y llwybr yn eich helpu i gadw golwg ar ble rydych chi a beth sydd i ddod.

Beth i fynd gyda chi?
Bydd cario’r dillad, cyfarpar a chyflenwadau cywir ar gyfer y diwrnod yn eich helpu i wneud y gorau o’ch ymweliad â’r goedwig.

  • Ewch â phecyn trwsio tyllau teiars neu diwb sbâr a gofalwch eich bod yn gwybod sut i’w defnyddio nhw.
  • Efallai y bydd pecyn offer sylfaenol yn ddefnyddiol hefyd!
  • Ewch â phecyn cymorth cyntaf a dull o gyfathrebu.

Cofiwch, gall y tywydd fod yn gyfnewidiol yma felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi edrych ar y rhagolygon ac wedi cynllunio’n briodol.

Beth ddylwn i ei wneud os aiff pethau o chwith?

Gall bod yn barod ac yn hunanddibynnol eich helpu i ddelio â llawer o sefyllfaoedd.

Beth ddylwn i ei wneud os af i ar goll?
Os byddwch yn gweld eich bod ar goll, ceisiwch olrhain eich llwybr yn ôl i’r rwyddbost diwethaf neu unrhyw arwyddbost wedi’i rifo a fydd yn rhoi cyfeirbwynt i chi ar y map ac yn caniatáu ichi ddod o hyd i ble rydych chi. Rydym hefyd wedi nodi llwybrau dihangfa yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr. Mae’r rhain yn dilyn y llwybr hawsaf a mwyaf gwastad yn ôl.

Beth am dyllau mewn teiars a phroblemau mecanyddol?
Bydd angen i chi allu trwsio hyn eich hun ar y llwybrau. Os na allwch ei drwsio yna bydd angen i chi gerdded yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr gan ddilyn y llwybrau dihangfa a grybwyllir uchod. Peidiwch ag anghofio, mae siop feiciau Beics Brenin wedi'i lleoli yn y ganolfan ymwelwyr lle gallwch brynu darnau sbâr hanfodol, citiau trwsio tyllau ac offer.

A oes signal ffôn symudol?
Mae signal symudol yn anghyson drwy’r goedwig, felly bydd cario dulliau eraill o gael sylw fel chwiban neu dortsh yn helpu yn y sefyllfaoedd hyn. Gellir gwneud galwadau i’r gwasanaethau brys ar unrhyw rwydwaith sydd ar gael.

Beth os bydd damwain?