Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod 16 pwynt gwefru am ddim ar gyfer defnyddwyr e-feiciau yng Nghoed y Brenin, felly gall beicwyr nawr ymweld â Choed y Brenin ac ailwefru eu beic trydan yn hawdd.
Mae hyn yn newyddion gwych i feicwyr mynydd trydan oherwydd mae'n golygu y gallant fwynhau mwy o lwybrau'r goedwig.
Mae’r pwyntiau gwefru am ddim i’w defnyddio ond bydd rhaid i chi gofio dod â gwefrydd eich beic. Mae gan y pwyntiau gwefru plwg safonol y DU.
Hefyd, mae hyn yn newyddion da i’r rhai sy’n mynd heibio Coed y Brenin ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 82 oherwydd gallan nhw stopio ac ymlacio yng Nghaffi Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin wrth wefru eu beic.
Mae cloeon beic ar gael i'w benthyg am ddim o Beics Brenin, gofynnwch yn y siop.